Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 18:1-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Caraf di, O ARGLWYDD, fy nghryfder.

2. Yr ARGLWYDD yw fy nghraig, fy nghadernid a'm gwaredydd;fy Nuw yw fy nghraig lle llochesaf,fy nharian, fy amddiffynfa gadarn a'm caer.

3. Gwaeddaf ar yr ARGLWYDD sy'n haeddu mawl,ac fe'm gwaredir rhag fy ngelynion.

4. Pan oedd clymau angau'n tynhau amdanafa llifeiriant distryw yn fy nal,

5. pan oedd clymau Sheol yn f'amgylchua maglau angau o'm blaen,

6. gwaeddais ar yr ARGLWYDD yn fy nghyfyngder,ac ar fy Nuw iddo fy nghynorthwyo;clywodd fy llef o'i deml,a daeth fy ngwaedd i'w glustiau.

7. Crynodd y ddaear a gwegian,ysgydwodd sylfeini'r mynyddoedd,a siglo oherwydd ei ddicter ef.

8. Cododd mwg o'i ffroenau,yr oedd tân yn ysu o'i enau,a marwor yn cynnau o'i gwmpas.

9. Fe agorodd y ffurfafen a disgyn,ac yr oedd tywyllwch o dan ei draed.

10. Marchogodd ar gerwb a hedfan,gwibiodd ar adenydd y gwynt.

11. Gosododd o'i amgylch dywyllwch yn guddfan,a chymylau duon yn orchudd.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 18