Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 17:4-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. Ni throseddodd fy ngenau fel y gwna eraill,ond fe gedwais eiriau dy wefusau.

5. Ar lwybrau'r anufudd byddai fy nghamau'n pallu,ond ar dy lwybrau di nid yw fy nhraed yn methu.

6. Gwaeddaf arnat ti am dy fod yn f'ateb, O Dduw;tro dy glust ataf, gwrando fy ngeiriau.

7. Dangos dy ffyddlondeb rhyfeddol,ti, sy'n gwaredu â'th ddeheulawy rhai sy'n llochesu ynot rhag eu gwrthwynebwyr.

8. Cadw fi fel cannwyll dy lygad,cuddia fi dan gysgod dy adenydd

9. rhag y drygionus sy'n fy nistrywio,y gelynion sydd yn eu gwanc yn f'amgylchu.

10. Maent wedi mygu tosturi,y mae eu genau'n llefaru balchder;

11. y maent ar fy sodlau ac ar gau amdanaf,wedi gosod eu bryd ar fy mwrw i'r llawr;

12. y maent fel llew yn barod i larpio,fel llew ifanc yn llechu yn ei guddfan.

13. Cyfod, ARGLWYDD, saf yn eu herbyn a'u bwrw i lawr!Â'th gleddyf gwared fy mywyd rhag y drygionus;

14. â'th law, ARGLWYDD, gwna ddiwedd arnynt,difa hwy o'u rhan yng nghanol bywyd.Llanwer eu bol â'r hyn sydd gennyt ar eu cyfer,bydded i'w plant gael digon,a chadw gweddill i'w babanod!

15. Ond byddaf fi yn fy nghyfiawnder yn gweld dy wyneb;pan ddeffroaf, digonir fi o weld dy wedd.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 17