Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 17:1-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Gwrando, ARGLWYDD, gri am gyfiawnder;rho sylw i'm llefa gwrandawiad i'm gweddioddi ar wefusau didwyll.

2. Doed fy marn oddi wrthyt ti,edryched dy lygaid ar yr hyn sy'n iawn.

3. Profaist fy nghalon a'm gwylio yn y nos,chwiliaist fi ond heb gael drygioni ynof.

4. Ni throseddodd fy ngenau fel y gwna eraill,ond fe gedwais eiriau dy wefusau.

5. Ar lwybrau'r anufudd byddai fy nghamau'n pallu,ond ar dy lwybrau di nid yw fy nhraed yn methu.

6. Gwaeddaf arnat ti am dy fod yn f'ateb, O Dduw;tro dy glust ataf, gwrando fy ngeiriau.

7. Dangos dy ffyddlondeb rhyfeddol,ti, sy'n gwaredu â'th ddeheulawy rhai sy'n llochesu ynot rhag eu gwrthwynebwyr.

8. Cadw fi fel cannwyll dy lygad,cuddia fi dan gysgod dy adenydd

9. rhag y drygionus sy'n fy nistrywio,y gelynion sydd yn eu gwanc yn f'amgylchu.

10. Maent wedi mygu tosturi,y mae eu genau'n llefaru balchder;

11. y maent ar fy sodlau ac ar gau amdanaf,wedi gosod eu bryd ar fy mwrw i'r llawr;

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 17