Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 16:8-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. Gosodais yr ARGLWYDD o'm blaen yn wastad;am ei fod ar fy neheulaw, ni'm symudir.

9. Am hynny, llawenha fy nghalon a gorfoledda f'ysbryd,a chaiff fy nghnawd fyw'n ddiogel;

10. oherwydd ni fyddi'n gadael fy enaid i Sheol,ac ni chaiff yr un teyrngar i ti weld Pwll Distryw.

11. Dangosi i mi lwybr bywyd;yn dy bresenoldeb di y mae digonedd o lawenydd,ac yn dy ddeheulaw fwyniant bythol.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 16