Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 16:3-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

3. Ac am y duwiau sanctaidd sydd yn y wlad,melltith ar bob un sy'n ymhyfrydu ynddynt.

4. Amlhau gofidiau y mae'r un sy'n blysio duwiau eraill;ni chynigiaf fi waed iddynt yn ddiodoffrwm,na chymryd eu henwau ar fy ngwefusau.

5. Ti, ARGLWYDD, yw fy nghyfran a'm cwpan,ti sy'n diogelu fy rhan;

6. syrthiodd y llinynnau i mi mewn mannau dymunol,ac y mae gennyf etifeddiaeth ragorol.

7. Bendithiaf yr ARGLWYDD a roddodd gyngor i mi;yn y nos y mae fy meddyliau'n fy hyfforddi.

8. Gosodais yr ARGLWYDD o'm blaen yn wastad;am ei fod ar fy neheulaw, ni'm symudir.

9. Am hynny, llawenha fy nghalon a gorfoledda f'ysbryd,a chaiff fy nghnawd fyw'n ddiogel;

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 16