1. Cadw fi, O Dduw, oherwydd llochesaf ynot ti.
2. Dywedais wrth yr ARGLWYDD, “Ti yw f'arglwydd,nid oes imi ddaioni ond ynot ti.”
3. Ac am y duwiau sanctaidd sydd yn y wlad,melltith ar bob un sy'n ymhyfrydu ynddynt.
4. Amlhau gofidiau y mae'r un sy'n blysio duwiau eraill;ni chynigiaf fi waed iddynt yn ddiodoffrwm,na chymryd eu henwau ar fy ngwefusau.
5. Ti, ARGLWYDD, yw fy nghyfran a'm cwpan,ti sy'n diogelu fy rhan;
6. syrthiodd y llinynnau i mi mewn mannau dymunol,ac y mae gennyf etifeddiaeth ragorol.
7. Bendithiaf yr ARGLWYDD a roddodd gyngor i mi;yn y nos y mae fy meddyliau'n fy hyfforddi.