Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 15:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. ARGLWYDD, pwy a gaiff aros yn dy babell?Pwy a gaiff fyw yn dy fynydd sanctaidd?

2. Yr un sy'n byw yn gywir, yn gwneud cyfiawnder,ac yn dweud gwir yn ei galon;

3. un nad oes malais ar ei dafod,nad yw'n gwneud niwed i'w gyfaill,nac yn goddef enllib am ei gymydog;

4. un sy'n edrych yn ddirmygus ar yr ysgymun,ond yn parchu'r rhai sy'n ofni'r ARGLWYDD;un sy'n tyngu i'w niwed ei hun, a heb dynnu'n ôl;

5. un nad yw'n rhoi ei arian am log,nac yn derbyn cildwrn yn erbyn y diniwed.Pwy bynnag a wna hyn, nis symudir byth.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 15