Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 149:3-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

3. Molwch ei enw â dawns,canwch fawl iddo â thympan a thelyn.

4. Oherwydd y mae'r ARGLWYDD yn ymhyfrydu yn ei bobl;y mae'n rhoi gwaredigaeth yn goron i'r gostyngedig.

5. Bydded i'r ffyddloniaid orfoleddu mewn gogoniant,a llawenhau ar eu clustogau.

6. Bydded uchel-foliant Duw yn eu genau,a chleddyf daufiniog yn eu llaw

7. i weithredu dial ar y cenhedloedda cherydd ar y bobloedd;

8. i rwymo eu brenhinoedd mewn cadwynau,a'u pendefigion â gefynnau haearn;

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 149