Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 147:1-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Molwch yr ARGLWYDD.Da yw canu mawl i'n Duw ni,oherwydd hyfryd a gweddus yw mawl.

2. Y mae'r ARGLWYDD yn adeiladu Jerwsalem,y mae'n casglu rhai gwasgaredig Israel.

3. Y mae'n iacháu'r rhai drylliedig o galon,ac yn rhwymo eu doluriau.

4. Y mae'n pennu nifer y sêr,ac yn rhoi enwau arnynt i gyd.

5. Mawr yw ein Harglwydd ni, a chryf o nerth;y mae ei ddoethineb yn ddifesur.

6. Y mae'r ARGLWYDD yn codi'r rhai gostyngedig,ond yn bwrw'r drygionus i'r llawr.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 147