Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 145:6-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. Cyhoeddant rym dy weithredoedd ofnadwy,ac adrodd am dy fawredd.

7. Dygant i gof dy ddaioni helaeth,a chanu am dy gyfiawnder.

8. Graslon a thrugarog yw'r ARGLWYDD,araf i ddigio, a llawn ffyddlondeb.

9. Y mae'r ARGLWYDD yn dda wrth bawb,ac y mae ei drugaredd tuag at ei holl waith.

10. Y mae dy holl waith yn dy foli, ARGLWYDD,a'th saint yn dy fendithio.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 145