Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 145:10-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

10. Y mae dy holl waith yn dy foli, ARGLWYDD,a'th saint yn dy fendithio.

11. Dywedant am ogoniant dy deyrnas,a sôn am dy nerth,

12. er mwyn dangos i bobl dy weithredoedd nertholac ysblander gogoneddus dy deyrnas.

13. Teyrnas dragwyddol yw dy deyrnas,a saif dy lywodraeth byth bythoedd.Y mae'r ARGLWYDD yn ffyddlon yn ei holl eiriau,ac yn drugarog yn ei holl weithredoedd.

14. Fe gynnal yr ARGLWYDD bawb sy'n syrthio,a chodi pawb sydd wedi eu darostwng.

15. Try llygaid pawb mewn gobaith atat ti,ac fe roi iddynt eu bwyd yn ei bryd;

16. y mae dy law yn agored,ac yr wyt yn diwallu popeth byw yn ôl d'ewyllys.

17. Y mae'r ARGLWYDD yn gyfiawn yn ei holl ffyrddac yn ffyddlon yn ei holl weithredoedd.

18. Y mae'r ARGLWYDD yn agos at bawb sy'n galw arno,at bawb sy'n galw arno mewn gwirionedd.

19. Gwna ddymuniad y rhai sy'n ei ofni;gwrendy ar eu cri, a gwareda hwy.

20. Gofala'r ARGLWYDD am bawb sy'n ei garu,ond y mae'n distrywio'r holl rai drygionus.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 145