Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 145:1-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Dyrchafaf di, fy Nuw, O Frenin,a bendithiaf dy enw byth bythoedd.

2. Bob dydd bendithiaf di,a moliannu dy enw byth bythoedd.

3. Mawr yw'r ARGLWYDD, a theilwng iawn o fawl,ac y mae ei fawredd yn anchwiliadwy.

4. Molianna'r naill genhedlaeth dy waith wrth y llall,a mynegi dy weithredoedd nerthol.

5. Am ysblander gogoneddus dy fawredd y dywedant,a myfyrio ar dy ryfeddodau.

6. Cyhoeddant rym dy weithredoedd ofnadwy,ac adrodd am dy fawredd.

7. Dygant i gof dy ddaioni helaeth,a chanu am dy gyfiawnder.

8. Graslon a thrugarog yw'r ARGLWYDD,araf i ddigio, a llawn ffyddlondeb.

9. Y mae'r ARGLWYDD yn dda wrth bawb,ac y mae ei drugaredd tuag at ei holl waith.

10. Y mae dy holl waith yn dy foli, ARGLWYDD,a'th saint yn dy fendithio.

11. Dywedant am ogoniant dy deyrnas,a sôn am dy nerth,

12. er mwyn dangos i bobl dy weithredoedd nertholac ysblander gogoneddus dy deyrnas.

13. Teyrnas dragwyddol yw dy deyrnas,a saif dy lywodraeth byth bythoedd.Y mae'r ARGLWYDD yn ffyddlon yn ei holl eiriau,ac yn drugarog yn ei holl weithredoedd.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 145