Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 144:3-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

3. O ARGLWYDD, beth yw meidrolyn, i ti ofalu amdano,a'r teulu dynol, i ti ei ystyried?

4. Y mae'r meidrol yn union fel anadl,a'i ddyddiau fel cysgod yn mynd heibio.

5. ARGLWYDD, agor y nefoedd a thyrd i lawr,cyffwrdd â'r mynyddoedd nes eu bod yn mygu;

6. saetha allan fellt nes eu gwasgaru,anfon dy saethau nes peri iddynt arswydo.

7. Estyn allan dy law o'r uchelder,i'm hachub ac i'm gwareduo ddyfroedd lawer, ac o law estroniaid

8. sy'n dweud celwydd â'u genau,a'u deheulaw'n llawn ffalster.

9. Canaf gân newydd i ti, O Dduw,canaf gyda'r offeryn dectant i ti,

10. ti sy'n rhoi gwaredigaeth i frenhinoedd,ac yn achub Dafydd ei was.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 144