1. Bendigedig yw yr ARGLWYDD, fy nghraig;ef sy'n dysgu i'm dwylo ymladd,ac i'm bysedd ryfela;
2. fy nghâr a'm cadernid,fy nghaer a'm gwaredydd,fy nharian a'm lloches,sy'n darostwng pobloedd odanaf.
3. O ARGLWYDD, beth yw meidrolyn, i ti ofalu amdano,a'r teulu dynol, i ti ei ystyried?
4. Y mae'r meidrol yn union fel anadl,a'i ddyddiau fel cysgod yn mynd heibio.
5. ARGLWYDD, agor y nefoedd a thyrd i lawr,cyffwrdd â'r mynyddoedd nes eu bod yn mygu;
6. saetha allan fellt nes eu gwasgaru,anfon dy saethau nes peri iddynt arswydo.