Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 140:3-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

3. Y mae eu tafod yn finiog fel sarff,ac y mae gwenwyn gwiber dan eu gwefusau.Sela

4. O ARGLWYDD, arbed fi rhag dwylo'r drygionus;cadw fi rhag rhai sy'n gorthrymu,rhai sy'n cynllunio i faglu fy nhraed.

5. Bu rhai trahaus yn cuddio magl i mi,a rhai dinistriol yn taenu rhwyd,ac yn gosod maglau ar ymyl y ffordd.Sela

6. Dywedais wrth yr ARGLWYDD, “Fy Nuw wyt ti”;gwrando, O ARGLWYDD, ar lef fy ngweddi.

7. O ARGLWYDD Dduw, fy iachawdwriaeth gadarn,cuddiaist fy mhen yn nydd brwydr.

8. O ARGLWYDD, paid â rhoi eu dymuniad i'r drygionus,paid â llwyddo eu bwriad.Sela

9. Y mae rhai o'm hamgylch yn codi eu pen,ond bydded i ddrygioni eu gwefusau eu llethu.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 140