1. O ARGLWYDD, gwared fi rhag pobl ddrygionus;cadw fi rhag rhai sy'n gorthrymu,
2. rhai sy'n cynllunio drygioni yn eu calon,a phob amser yn codi cythrwfl.
3. Y mae eu tafod yn finiog fel sarff,ac y mae gwenwyn gwiber dan eu gwefusau.Sela
4. O ARGLWYDD, arbed fi rhag dwylo'r drygionus;cadw fi rhag rhai sy'n gorthrymu,rhai sy'n cynllunio i faglu fy nhraed.
5. Bu rhai trahaus yn cuddio magl i mi,a rhai dinistriol yn taenu rhwyd,ac yn gosod maglau ar ymyl y ffordd.Sela
6. Dywedais wrth yr ARGLWYDD, “Fy Nuw wyt ti”;gwrando, O ARGLWYDD, ar lef fy ngweddi.
7. O ARGLWYDD Dduw, fy iachawdwriaeth gadarn,cuddiaist fy mhen yn nydd brwydr.
8. O ARGLWYDD, paid â rhoi eu dymuniad i'r drygionus,paid â llwyddo eu bwriad.Sela
9. Y mae rhai o'm hamgylch yn codi eu pen,ond bydded i ddrygioni eu gwefusau eu llethu.
10. Bydded i farwor tanllyd syrthio arnynt;bwrier hwy i ffosydd dyfnion heb allu codi.
11. Na fydded lle i'r enllibus yn y wlad;bydded i ddrygioni ymlid y gorthrymwr yn ddiarbed.
12. Gwn y gwna'r ARGLWYDD gyfiawnder â'r truan,ac y rhydd farn i'r anghenus.