Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 138:1-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Clodforaf di â'm holl galon,canaf fawl i ti yng ngŵydd duwiau.

2. Ymgrymaf tuag at dy deml sanctaidd,a chlodforaf dy enw am dy gariad a'th ffyddlondeb,oherwydd dyrchefaist dy enw a'th air uwchlaw popeth.

3. Pan elwais arnat, atebaist fi,a chynyddaist fy nerth ynof.

4. Bydded i holl frenhinoedd y ddaear dy glodfori, O ARGLWYDD,am iddynt glywed geiriau dy enau;

5. bydded iddynt ganu am ffyrdd yr ARGLWYDD,oherwydd mawr yw gogoniant yr ARGLWYDD.

6. Er bod yr ARGLWYDD yn uchel, fe gymer sylw o'r isel,ac fe ddarostwng y balch o bell.

7. Er imi fynd trwy ganol cyfyngder, adfywiaist fi;estynnaist dy law yn erbyn llid fy ngelynion,a gwaredaist fi â'th ddeheulaw.

8. Bydd yr ARGLWYDD yn gweithredu ar fy rhan.O ARGLWYDD, y mae dy gariad hyd byth;paid â gadael gwaith dy ddwylo.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 138