Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 137:4-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. Sut y medrwn ganu cân yr ARGLWYDDmewn tir estron?

5. Os anghofiaf di, Jerwsalem,bydded fy neheulaw'n ddiffrwyth;

6. bydded i'm tafod lynu wrth daflod fy ngenauos na chofiaf di,os na osodaf Jerwsalemyn uwch na'm llawenydd pennaf.

7. O ARGLWYDD, dal yn erbyn pobl Edomddydd gofid Jerwsalem,am iddynt ddweud, “I lawr â hi, i lawr â hihyd at ei sylfeini.”

8. O ferch Babilon, a ddistrywir,gwyn ei fyd y sawl sy'n talu'n ôl i tiam y cyfan a wnaethost i ni.

9. Gwyn ei fyd y sawl sy'n cipio dy blantac yn eu dryllio yn erbyn y graig.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 137