Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 136:6-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. taenodd y ddaear dros y dyfroedd,oherwydd mae ei gariad hyd byth;

7. gwnaeth oleuadau mawrion,oherwydd mae ei gariad hyd byth;

8. yr haul i reoli'r dydd,oherwydd mae ei gariad hyd byth,

9. y lleuad a'r sêr i reoli'r nos,oherwydd mae ei gariad hyd byth.

10. Trawodd rai cyntafanedig yr Aifft,oherwydd mae ei gariad hyd byth,

11. a daeth ag Israel allan o'u canol,oherwydd mae ei gariad hyd byth;

12. â llaw gref ac â braich estynedig,oherwydd mae ei gariad hyd byth.

13. Holltodd y Môr Coch yn ddau,oherwydd mae ei gariad hyd byth,

14. a dygodd Israel trwy ei ganol,oherwydd mae ei gariad hyd byth,

15. ond taflodd Pharo a'i lu i'r Môr Coch,oherwydd mae ei gariad hyd byth.

16. Arweiniodd ei bobl trwy'r anialwch,oherwydd mae ei gariad hyd byth,

17. a tharo brenhinoedd mawrion,oherwydd mae ei gariad hyd byth.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 136