Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 136:5-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. gwnaeth y nefoedd mewn doethineb,oherwydd mae ei gariad hyd byth;

6. taenodd y ddaear dros y dyfroedd,oherwydd mae ei gariad hyd byth;

7. gwnaeth oleuadau mawrion,oherwydd mae ei gariad hyd byth;

8. yr haul i reoli'r dydd,oherwydd mae ei gariad hyd byth,

9. y lleuad a'r sêr i reoli'r nos,oherwydd mae ei gariad hyd byth.

10. Trawodd rai cyntafanedig yr Aifft,oherwydd mae ei gariad hyd byth,

11. a daeth ag Israel allan o'u canol,oherwydd mae ei gariad hyd byth;

12. â llaw gref ac â braich estynedig,oherwydd mae ei gariad hyd byth.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 136