Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 135:1-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Molwch yr ARGLWYDD.Molwch enw'r ARGLWYDD,molwch ef, chwi weision yr ARGLWYDD,

2. sy'n sefyll yn nhÅ·'r ARGLWYDD,yng nghynteddoedd ein Duw.

3. Molwch yr ARGLWYDD, oherwydd da yw ef;canwch i'w enw, oherwydd y mae'n ddymunol.

4. Dewisodd yr ARGLWYDD Jacob iddo'i hunan,ac Israel yn drysor arbennig iddo.

5. Oherwydd fe wn i fod yr ARGLWYDD yn fawr,a bod ein Harglwydd ni yn rhagori ar yr holl dduwiau.

6. Fe wna'r ARGLWYDD beth bynnag a ddymuna,yn y nefoedd ac ar y ddaear,yn y moroedd a'r holl ddyfnderau.

7. Pâr i gymylau godi o derfynau'r ddaear;fe wna fellt ar gyfer y glaw,a daw gwynt allan o'i ystordai.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 135