4. ni roddaf gwsg i'm llygaidna hun i'm hamrannau,
5. nes imi gael lle i'r ARGLWYDDa thrigfan i Un Cadarn Jacob.”
6. Wele, clywsom amdani yn Effrata,a chawsom hi ym meysydd y coed.
7. “Awn i mewn i'w drigfana phlygwn wrth ei droedfainc.
8. Cyfod, ARGLWYDD, a thyrd i'th orffwysfa,ti ac arch dy nerth.
9. Bydded dy offeiriaid wedi eu gwisgo â chyfiawnder,a bydded i'th ffyddloniaid orfoleddu.”
10. Er mwyn Dafydd dy was,paid â throi oddi wrth wyneb dy eneiniog.
11. Tyngodd yr ARGLWYDD i Ddafyddadduned sicr na thry oddi wrthi:“O ffrwyth dy gorffy gosodaf un ar dy orsedd.
12. Os ceidw dy feibion fy nghyfamod,a'r tystiolaethau a ddysgaf iddynt,bydd eu meibion hwythau hyd bythyn eistedd ar dy orsedd.”
13. Oherwydd dewisodd yr ARGLWYDD Seion,a'i chwennych yn drigfan iddo:
14. “Dyma fy ngorffwysfa am byth;yma y trigaf am imi ei dewis.
15. Bendithiaf hi â digonedd o ymborth,a digonaf ei thlodion â bara.
16. Gwisgaf ei hoffeiriaid ag iachawdwriaeth,a bydd ei ffyddloniaid yn gorfoleddu.