Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 124:1-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Oni bai i'r ARGLWYDD fod o'n tu—dyweded Israel hynny—

2. oni bai i'r ARGLWYDD fod o'n tupan gododd rhai yn ein herbyn,

3. byddent wedi'n llyncu'n fywwrth i'w llid losgi tuag atom;

4. byddai'r dyfroedd wedi'n cario ymaitha'r llif wedi mynd dros ein pennau;

5. ie, drosom yr âidygyfor y tonnau.

6. Bendigedig fyddo'r ARGLWYDDam iddo beidio â'n rhoiyn ysglyfaeth i'w dannedd.

7. Yr ydym wedi dianc fel aderyno fagl yr heliwr;torrodd y fagl,yr ydym ninnau'n rhydd.

8. Ein cymorth sydd yn enw'r ARGLWYDD,creawdwr nefoedd a daear.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 124