Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 123:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Yr wyf yn codi fy llygaid atat tisy'n eistedd yn y nefoedd.

2. Fel y mae llygaid gweision yn gwylio llaw eu meistr,a llygaid caethferch yn gwylio llaw ei meistres,felly y mae ein llygaid ninnau yn gwylio'r ARGLWYDD ein Duwnes iddo drugarhau wrthym.

3. Bydd drugarog wrthym, O ARGLWYDD, bydd drugarog wrthym,oherwydd fe gawsom ddigon o sarhad.

4. Yn rhy hir y cawsom ddigon ar wawd y trahausac ar sarhad y beilchion.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 123