Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 122:3-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

3. Adeiladwyd Jerwsalem yn ddinaslle'r unir y bobl â'i gilydd.

4. Yno yr esgyn y llwythau,llwythau'r ARGLWYDD,fel y gorchmynnwyd i Israel,i roi diolch i enw'r ARGLWYDD.

5. Yno y gosodwyd gorseddfeinciau barn,gorseddfeinciau tŷ Dafydd.

6. Gweddïwch am heddwch i Jerwsalem,“Bydded llwyddiant i'r rhai sy'n dy garu;

7. bydded heddwch o fewn dy furiau,a diogelwch o fewn dy geyrydd.”

8. Er mwyn fy nghydnabod a'm cyfeillion,dywedaf, “Bydded heddwch i ti.”

9. Er mwyn tŷ yr ARGLWYDD ein Duw,ceisiaf ddaioni i ti.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 122