Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 121:1-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Codaf fy llygaid tua'r mynyddoedd;o ble y daw cymorth i mi?

2. Daw fy nghymorth oddi wrth yr ARGLWYDD,creawdwr nefoedd a daear.

3. Nid yw'n gadael i'th droed lithro,ac nid yw dy geidwad yn cysgu.

4. Nid yw ceidwad Israelyn cysgu nac yn huno.

5. Yr ARGLWYDD yw dy geidwad,yr ARGLWYDD yw dy gysgod ar dy ddeheulaw;

6. ni fydd yr haul yn dy daro yn y dydd,na'r lleuad yn y nos.

7. Bydd yr ARGLWYDD yn dy gadw rhag pob drwg,bydd yn cadw dy einioes.

8. Bydd yr ARGLWYDD yn gwylio dy fynd a'th ddodyn awr a hyd byth.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 121