Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 119:94-109 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

94. Eiddot ti ydwyf; gwareda fi,oherwydd ceisiais dy ofynion.

95. Y mae'r drygionus yn gwylio amdanaf i'm dinistrio,ond fe ystyriaf fi dy farnedigaethau.

96. Gwelaf fod popeth yn dod i ben,ond nid oes terfyn i'th orchymyn di.

97. O fel yr wyf yn caru dy gyfraith!Hi yw fy myfyrdod drwy'r dydd.

98. Y mae dy orchymyn yn fy ngwneud yn ddoethach na'm gelynion,oherwydd y mae gyda mi bob amser.

99. Yr wyf yn fwy deallus na'm holl athrawon,oherwydd bod dy farnedigaethau'n fyfyrdod i mi.

100. Yr wyf yn deall yn well na'r rhai hen,oherwydd imi ufuddhau i'th ofynion.

101. Cedwais fy nhraed rhag pob llwybr drwg,er mwyn imi gadw dy air.

102. Nid wyf wedi troi oddi wrth dy farnau,oherwydd ti fu'n fy nghyfarwyddo.

103. Mor felys yw dy addewid i'm genau,melysach na mêl i'm gwefusau.

104. O'th ofynion di y caf ddeall;dyna pam yr wyf yn casáu llwybrau twyll.

105. Y mae dy air yn llusern i'm troed,ac yn oleuni i'm llwybr.

106. Tyngais lw, a gwneud addunedi gadw dy farnau cyfiawn.

107. Yr wyf mewn gofid mawr;O ARGLWYDD, adfywia fi yn ôl dy air.

108. Derbyn deyrnged fy ngenau, O ARGLWYDD,a dysg i mi dy farnedigaethau.

109. Bob dydd y mae fy mywyd yn fy nwylo,ond nid wyf yn anghofio dy gyfraith.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 119