Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 119:86-90 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

86. Y mae dy holl orchmynion yn sicr;pan fyddant yn fy erlid â chelwydd, cynorthwya fi.

87. Bu ond y dim iddynt fy nifetha oddi ar y ddaear,ond eto ni throis fy nghefn ar dy ofynion.

88. Yn ôl dy gariad adfywia fi,ac fe gadwaf farnedigaethau dy enau.

89. Y mae dy air, O ARGLWYDD, yn dragwyddol,wedi ei osod yn sefydlog yn y nefoedd.

90. Y mae dy ffyddlondeb hyd genhedlaeth a chenhedlaeth;seiliaist y ddaear, ac y mae'n sefyll.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 119