Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 119:81-98 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

81. Y mae fy enaid yn dyheu am dy iachawdwriaeth,ac yn gobeithio yn dy air;

82. y mae fy llygaid yn pylu wrth ddisgwyl am dy addewid;dywedaf, “Pa bryd y byddi'n fy nghysuro?”

83. Er imi grebachu fel costrel groen mewn mwg,eto nid anghofiaf dy ddeddfau.

84. Am ba hyd y disgwyl dy wascyn iti roi barn ar fy erlidwyr?

85. Y mae gwŷr trahaus, rhai sy'n anwybyddu dy gyfraith,wedi cloddio pwll ar fy nghyfer.

86. Y mae dy holl orchmynion yn sicr;pan fyddant yn fy erlid â chelwydd, cynorthwya fi.

87. Bu ond y dim iddynt fy nifetha oddi ar y ddaear,ond eto ni throis fy nghefn ar dy ofynion.

88. Yn ôl dy gariad adfywia fi,ac fe gadwaf farnedigaethau dy enau.

89. Y mae dy air, O ARGLWYDD, yn dragwyddol,wedi ei osod yn sefydlog yn y nefoedd.

90. Y mae dy ffyddlondeb hyd genhedlaeth a chenhedlaeth;seiliaist y ddaear, ac y mae'n sefyll.

91. Yn ôl dy ordeiniadau y maent yn sefyll hyd heddiw,oherwydd gweision i ti yw'r cyfan.

92. Oni bai i'th gyfraith fod yn hyfrydwch i mi,byddai wedi darfod amdanaf yn fy adfyd;

93. nid anghofiaf dy ofynion hyd byth,oherwydd trwyddynt hwy adfywiaist fi.

94. Eiddot ti ydwyf; gwareda fi,oherwydd ceisiais dy ofynion.

95. Y mae'r drygionus yn gwylio amdanaf i'm dinistrio,ond fe ystyriaf fi dy farnedigaethau.

96. Gwelaf fod popeth yn dod i ben,ond nid oes terfyn i'th orchymyn di.

97. O fel yr wyf yn caru dy gyfraith!Hi yw fy myfyrdod drwy'r dydd.

98. Y mae dy orchymyn yn fy ngwneud yn ddoethach na'm gelynion,oherwydd y mae gyda mi bob amser.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 119