Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 119:79-90 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

79. Bydded i'r rhai sy'n dy ofni droi ataf fi,iddynt gael gwybod dy farnedigaethau.

80. Bydded fy nghalon bob amser yn dy ddeddfau,rhag imi gael fy nghywilyddio.

81. Y mae fy enaid yn dyheu am dy iachawdwriaeth,ac yn gobeithio yn dy air;

82. y mae fy llygaid yn pylu wrth ddisgwyl am dy addewid;dywedaf, “Pa bryd y byddi'n fy nghysuro?”

83. Er imi grebachu fel costrel groen mewn mwg,eto nid anghofiaf dy ddeddfau.

84. Am ba hyd y disgwyl dy wascyn iti roi barn ar fy erlidwyr?

85. Y mae gwŷr trahaus, rhai sy'n anwybyddu dy gyfraith,wedi cloddio pwll ar fy nghyfer.

86. Y mae dy holl orchmynion yn sicr;pan fyddant yn fy erlid â chelwydd, cynorthwya fi.

87. Bu ond y dim iddynt fy nifetha oddi ar y ddaear,ond eto ni throis fy nghefn ar dy ofynion.

88. Yn ôl dy gariad adfywia fi,ac fe gadwaf farnedigaethau dy enau.

89. Y mae dy air, O ARGLWYDD, yn dragwyddol,wedi ei osod yn sefydlog yn y nefoedd.

90. Y mae dy ffyddlondeb hyd genhedlaeth a chenhedlaeth;seiliaist y ddaear, ac y mae'n sefyll.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 119