Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 119:69-76 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

69. Y mae'r trahaus yn fy mhardduo â chelwydd,ond yr wyf fi'n ufuddhau i'th ofynion â'm holl galon;

70. y mae eu calon hwy'n drwm gan fraster,ond yr wyf fi'n ymhyfrydu yn dy gyfraith.

71. Mor dda yw imi gael fy ngheryddu,er mwyn imi gael dysgu dy ddeddfau!

72. Y mae cyfraith dy enau yn well i mina miloedd o aur ac arian.

73. Dy ddwylo di a'm gwnaeth ac a'm lluniodd;rho imi ddeall i ddysgu dy orchmynion.

74. Pan fydd y rhai sy'n dy ofni yn fy ngweld, fe lawenychantam fy mod yn gobeithio yn dy air.

75. Gwn, O ARGLWYDD, fod dy farnau'n gyfiawn,ac mai mewn ffyddlondeb yr wyt wedi fy ngheryddu.

76. Bydded dy gariad yn gysur i mi,yn unol â'th addewid i'th was.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 119