Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 119:68-73 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

68. Yr wyt ti yn dda, ac yn gwneud daioni;dysg i mi dy ddeddfau.

69. Y mae'r trahaus yn fy mhardduo â chelwydd,ond yr wyf fi'n ufuddhau i'th ofynion â'm holl galon;

70. y mae eu calon hwy'n drwm gan fraster,ond yr wyf fi'n ymhyfrydu yn dy gyfraith.

71. Mor dda yw imi gael fy ngheryddu,er mwyn imi gael dysgu dy ddeddfau!

72. Y mae cyfraith dy enau yn well i mina miloedd o aur ac arian.

73. Dy ddwylo di a'm gwnaeth ac a'm lluniodd;rho imi ddeall i ddysgu dy orchmynion.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 119