67. Cyn imi gael fy ngheryddu euthum ar gyfeiliorn,ond yn awr yr wyf yn cadw dy air.
68. Yr wyt ti yn dda, ac yn gwneud daioni;dysg i mi dy ddeddfau.
69. Y mae'r trahaus yn fy mhardduo â chelwydd,ond yr wyf fi'n ufuddhau i'th ofynion â'm holl galon;
70. y mae eu calon hwy'n drwm gan fraster,ond yr wyf fi'n ymhyfrydu yn dy gyfraith.
71. Mor dda yw imi gael fy ngheryddu,er mwyn imi gael dysgu dy ddeddfau!
72. Y mae cyfraith dy enau yn well i mina miloedd o aur ac arian.
73. Dy ddwylo di a'm gwnaeth ac a'm lluniodd;rho imi ddeall i ddysgu dy orchmynion.
74. Pan fydd y rhai sy'n dy ofni yn fy ngweld, fe lawenychantam fy mod yn gobeithio yn dy air.
75. Gwn, O ARGLWYDD, fod dy farnau'n gyfiawn,ac mai mewn ffyddlondeb yr wyt wedi fy ngheryddu.
76. Bydded dy gariad yn gysur i mi,yn unol â'th addewid i'th was.