Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 119:65-72 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

65. Gwnaethost ddaioni i'th was,yn unol â'th air, O ARGLWYDD.

66. Dysg imi ddirnadaeth a gwybodaeth,oherwydd yr wyf yn ymddiried yn dy orchmynion.

67. Cyn imi gael fy ngheryddu euthum ar gyfeiliorn,ond yn awr yr wyf yn cadw dy air.

68. Yr wyt ti yn dda, ac yn gwneud daioni;dysg i mi dy ddeddfau.

69. Y mae'r trahaus yn fy mhardduo â chelwydd,ond yr wyf fi'n ufuddhau i'th ofynion â'm holl galon;

70. y mae eu calon hwy'n drwm gan fraster,ond yr wyf fi'n ymhyfrydu yn dy gyfraith.

71. Mor dda yw imi gael fy ngheryddu,er mwyn imi gael dysgu dy ddeddfau!

72. Y mae cyfraith dy enau yn well i mina miloedd o aur ac arian.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 119