Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 119:49-55 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

49. Cofia dy air i'th was,y gair y gwnaethost imi ymddiried ynddo.

50. Hyn fu fy nghysur mewn adfyd,fod dy addewid di yn fy adfywio.

51. Y mae'r trahaus yn fy ngwawdio o hyd,ond ni throis oddi wrth dy gyfraith.

52. Yr wyf yn cofio dy farnau erioed,ac yn cael cysur ynddynt, O ARGLWYDD.

53. Cydia digofaint ynof oherwydd y rhai drygionussy'n gwrthod dy gyfraith.

54. Daeth dy ddeddfau'n gân i miymhle bynnag y bûm yn byw.

55. Yr wyf yn cofio dy enw yn y nos, O ARGLWYDD,ac fe gadwaf dy gyfraith.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 119