Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 119:47-59 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

47. ymhyfrydaf yn dy orchmynionam fy mod yn eu caru.

48. Parchaf dy orchmynionam fy mod yn eu caru,a myfyriaf ar dy ddeddfau.

49. Cofia dy air i'th was,y gair y gwnaethost imi ymddiried ynddo.

50. Hyn fu fy nghysur mewn adfyd,fod dy addewid di yn fy adfywio.

51. Y mae'r trahaus yn fy ngwawdio o hyd,ond ni throis oddi wrth dy gyfraith.

52. Yr wyf yn cofio dy farnau erioed,ac yn cael cysur ynddynt, O ARGLWYDD.

53. Cydia digofaint ynof oherwydd y rhai drygionussy'n gwrthod dy gyfraith.

54. Daeth dy ddeddfau'n gân i miymhle bynnag y bûm yn byw.

55. Yr wyf yn cofio dy enw yn y nos, O ARGLWYDD,ac fe gadwaf dy gyfraith.

56. Hyn sydd wir amdanaf,imi ufuddhau i'th ofynion.

57. Ti yw fy rhan, O ARGLWYDD;addewais gadw dy air.

58. Yr wyf yn erfyn arnat â'm holl galon,bydd drugarog wrthyf yn ôl dy addewid.

59. Pan feddyliaf am fy ffyrdd,trof fy nghamre'n ôl at dy farnedigaethau;

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 119