Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 119:4-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. Yr wyt ti wedi gwneud dy ofynion yn ddeddfaui'w cadw'n ddyfal.

5. O na allwn gerdded yn unionsytha chadw dy ddeddfau!

6. Yna ni'm cywilyddir os cadwaf fy llygaidar dy holl orchmynion.

7. Fe'th glodforaf di â chalon gywirwrth imi ddysgu am dy farnau cyfiawn.

8. Fe gadwaf dy ddeddfau;paid â'm gadael yn llwyr.

9. Sut y ceidw'r ifanc ei lwybr yn lân?Trwy gadw dy air di.

10. Fe'th geisiais di â'm holl galon;paid â gadael imi wyro oddi wrth dy orchmynion.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 119