Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 119:35-43 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

35. gwna imi gerdded yn llwybr dy orchmynion,oherwydd yr wyf yn ymhyfrydu ynddo.

36. Tro fy nghalon at dy farnedigaethauyn hytrach nag at elw;

37. tro ymaith fy llygaid rhag gweld gwagedd;adfywia fi â'th air.

38. Cyflawna i'th was yr addewida roddaist i'r rhai sy'n dy ofni.

39. Tro ymaith y gwaradwydd yr wyf yn ei ofni,oherwydd y mae dy farnau'n dda.

40. Yr wyf yn dyheu am dy ofynion;adfywia fi â'th gyfiawnder.

41. Pâr i'th gariad ddod ataf, O ARGLWYDD,a'th iachawdwriaeth yn ôl dy addewid;

42. yna rhoddaf ateb i'r rhai sy'n fy ngwatwar,oherwydd ymddiriedais yn dy air.

43. Paid â chymryd gair y gwirionedd o'm genau,oherwydd fe obeithiais yn dy farnau.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 119