Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 119:22-30 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

22. Tyn ymaith oddi wrthyf eu gwaradwydd a'u sarhad,oherwydd bûm ufudd i'th farnedigaethau.

23. Er i dywysogion eistedd mewn cynllwyn yn f'erbyn,bydd dy was yn myfyrio ar dy ddeddfau;

24. y mae dy farnedigaethau'n hyfrydwch i mi,a hefyd yn gynghorwyr imi.

25. Y mae fy enaid yn glynu wrth y llwch;adfywia fi yn ôl dy air.

26. Adroddais am fy hynt ac atebaist fi;dysg i mi dy ddeddfau.

27. Gwna imi ddeall ffordd dy ofynion,ac fe fyfyriaf ar dy ryfeddodau.

28. Y mae fy enaid yn anniddig gan ofid,cryfha fi yn ôl dy air.

29. Gosod ffordd twyll ymhell oddi wrthyf,a rho imi ras dy gyfraith.

30. Dewisais ffordd ffyddlondeb,a gosod dy farnau o'm blaen.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 119