Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 119:19-35 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

19. Ymdeithydd wyf fi ar y ddaear;paid â chuddio dy orchmynion oddi wrthyf.

20. Y mae fy nghalon yn dihoeni o hiraetham dy farnau di bob amser.

21. Fe geryddaist y trahaus, y rhai melltigedigsy'n gwyro oddi wrth dy orchmynion.

22. Tyn ymaith oddi wrthyf eu gwaradwydd a'u sarhad,oherwydd bûm ufudd i'th farnedigaethau.

23. Er i dywysogion eistedd mewn cynllwyn yn f'erbyn,bydd dy was yn myfyrio ar dy ddeddfau;

24. y mae dy farnedigaethau'n hyfrydwch i mi,a hefyd yn gynghorwyr imi.

25. Y mae fy enaid yn glynu wrth y llwch;adfywia fi yn ôl dy air.

26. Adroddais am fy hynt ac atebaist fi;dysg i mi dy ddeddfau.

27. Gwna imi ddeall ffordd dy ofynion,ac fe fyfyriaf ar dy ryfeddodau.

28. Y mae fy enaid yn anniddig gan ofid,cryfha fi yn ôl dy air.

29. Gosod ffordd twyll ymhell oddi wrthyf,a rho imi ras dy gyfraith.

30. Dewisais ffordd ffyddlondeb,a gosod dy farnau o'm blaen.

31. Glynais wrth dy farnedigaethau.O ARGLWYDD, paid â'm cywilyddio.

32. Dilynaf ffordd dy orchmynion,oherwydd ehangaist fy neall.

33. O ARGLWYDD, dysg fi yn ffordd dy ddeddfau,ac o'i chadw fe gaf wobr.

34. Rho imi ddeall, er mwyn imi ufuddhau i'th gyfraitha'i chadw â'm holl galon;

35. gwna imi gerdded yn llwybr dy orchmynion,oherwydd yr wyf yn ymhyfrydu ynddo.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 119