Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 119:18-29 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

18. Agor fy llygaid imi weldrhyfeddodau dy gyfraith.

19. Ymdeithydd wyf fi ar y ddaear;paid â chuddio dy orchmynion oddi wrthyf.

20. Y mae fy nghalon yn dihoeni o hiraetham dy farnau di bob amser.

21. Fe geryddaist y trahaus, y rhai melltigedigsy'n gwyro oddi wrth dy orchmynion.

22. Tyn ymaith oddi wrthyf eu gwaradwydd a'u sarhad,oherwydd bûm ufudd i'th farnedigaethau.

23. Er i dywysogion eistedd mewn cynllwyn yn f'erbyn,bydd dy was yn myfyrio ar dy ddeddfau;

24. y mae dy farnedigaethau'n hyfrydwch i mi,a hefyd yn gynghorwyr imi.

25. Y mae fy enaid yn glynu wrth y llwch;adfywia fi yn ôl dy air.

26. Adroddais am fy hynt ac atebaist fi;dysg i mi dy ddeddfau.

27. Gwna imi ddeall ffordd dy ofynion,ac fe fyfyriaf ar dy ryfeddodau.

28. Y mae fy enaid yn anniddig gan ofid,cryfha fi yn ôl dy air.

29. Gosod ffordd twyll ymhell oddi wrthyf,a rho imi ras dy gyfraith.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 119