Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 119:172-175 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

172. Bydd fy nhafod yn canu am dy addewid,oherwydd y mae dy holl orchmynion yn gyfiawn.

173. Bydded dy law yn barod i'm cynorthwyo,oherwydd yr wyf wedi dewis dy ofynion.

174. Yr wyf yn dyheu am dy iachawdwriaeth, O ARGLWYDD,ac yn ymhyfrydu yn dy gyfraith.

175. Gad imi fyw i'th foliannu di,a bydded i'th farnau fy nghynorthwyo.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 119