Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 119:167-175 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

167. Yr wyf yn cadw dy farnedigaethauac yn eu caru'n fawr.

168. Yr wyf yn ufudd i'th ofynion a'th farnedigaethau,oherwydd y mae fy holl ffyrdd o'th flaen.

169. Doed fy llef atat, O ARGLWYDD;rho imi ddeall yn ôl dy air.

170. Doed fy neisyfiad atat;gwared fi yn ôl dy addewid.

171. Bydd fy ngwefusau'n tywallt moliantam iti ddysgu i mi dy ddeddfau.

172. Bydd fy nhafod yn canu am dy addewid,oherwydd y mae dy holl orchmynion yn gyfiawn.

173. Bydded dy law yn barod i'm cynorthwyo,oherwydd yr wyf wedi dewis dy ofynion.

174. Yr wyf yn dyheu am dy iachawdwriaeth, O ARGLWYDD,ac yn ymhyfrydu yn dy gyfraith.

175. Gad imi fyw i'th foliannu di,a bydded i'th farnau fy nghynorthwyo.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 119