Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 119:161-168 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

161. Y mae tywysogion yn fy erlid yn ddiachos,ond dy air di yw arswyd fy nghalon.

162. Yr wyf yn llawenhau o achos dy addewid,fel un sy'n cael ysbail fawr.

163. Yr wyf yn casáu ac yn ffieiddio twyll,ond yn caru dy gyfraith di.

164. Seithwaith y dydd yr wyf yn dy folioherwydd dy farnau cyfiawn.

165. Caiff y rhai sy'n caru dy gyfraith wir heddwch,ac nid oes dim yn peri iddynt faglu.

166. Yr wyf yn disgwyl am dy iachawdwriaeth, O ARGLWYDD,ac yn ufuddhau i'th orchmynion.

167. Yr wyf yn cadw dy farnedigaethauac yn eu caru'n fawr.

168. Yr wyf yn ufudd i'th ofynion a'th farnedigaethau,oherwydd y mae fy holl ffyrdd o'th flaen.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 119