Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 119:152-170 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

152. Gwn erioed am dy farnedigaethau,i ti eu sefydlu am byth.

153. Edrych ar fy adfyd a gwared fi,oherwydd nid anghofiais dy gyfraith.

154. Amddiffyn fy achos ac achub fi;adfywia fi yn ôl dy addewid.

155. Y mae iachawdwriaeth ymhell oddi wrth y drygionus,oherwydd nid ydynt yn ceisio dy ddeddfau.

156. Mawr yw dy drugaredd, O ARGLWYDD;adfywia fi yn ôl dy farn.

157. Y mae fy erlidwyr a'm gelynion yn niferus,ond eto ni wyrais oddi wrth dy farnedigaethau.

158. Gwelais y rhai twyllodrus, a ffieiddiaisam nad ydynt yn cadw dy air.

159. Gwêl fel yr wyf yn caru dy ofynion;O ARGLWYDD, adfywia fi yn ôl dy gariad.

160. Hanfod dy air yw gwirionedd,ac y mae dy holl farnau cyfiawn yn dragwyddol.

161. Y mae tywysogion yn fy erlid yn ddiachos,ond dy air di yw arswyd fy nghalon.

162. Yr wyf yn llawenhau o achos dy addewid,fel un sy'n cael ysbail fawr.

163. Yr wyf yn casáu ac yn ffieiddio twyll,ond yn caru dy gyfraith di.

164. Seithwaith y dydd yr wyf yn dy folioherwydd dy farnau cyfiawn.

165. Caiff y rhai sy'n caru dy gyfraith wir heddwch,ac nid oes dim yn peri iddynt faglu.

166. Yr wyf yn disgwyl am dy iachawdwriaeth, O ARGLWYDD,ac yn ufuddhau i'th orchmynion.

167. Yr wyf yn cadw dy farnedigaethauac yn eu caru'n fawr.

168. Yr wyf yn ufudd i'th ofynion a'th farnedigaethau,oherwydd y mae fy holl ffyrdd o'th flaen.

169. Doed fy llef atat, O ARGLWYDD;rho imi ddeall yn ôl dy air.

170. Doed fy neisyfiad atat;gwared fi yn ôl dy addewid.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 119