147. Codaf cyn y wawr a gofyn am gymorth,a gobeithiaf yn dy eiriau.
148. Y mae fy llygaid yn effro yng ngwyliadwriaethau'r nos,i fyfyrio ar dy addewid.
149. Gwrando fy llef yn ôl dy gariad;O ARGLWYDD, yn ôl dy farnau adfywia fi.
150. Y mae fy erlidwyr dichellgar yn agosáu,ond y maent yn bell oddi wrth dy gyfraith.
151. Yr wyt ti yn agos, O ARGLWYDD,ac y mae dy holl orchmynion yn wirionedd.
152. Gwn erioed am dy farnedigaethau,i ti eu sefydlu am byth.
153. Edrych ar fy adfyd a gwared fi,oherwydd nid anghofiais dy gyfraith.
154. Amddiffyn fy achos ac achub fi;adfywia fi yn ôl dy addewid.
155. Y mae iachawdwriaeth ymhell oddi wrth y drygionus,oherwydd nid ydynt yn ceisio dy ddeddfau.
156. Mawr yw dy drugaredd, O ARGLWYDD;adfywia fi yn ôl dy farn.
157. Y mae fy erlidwyr a'm gelynion yn niferus,ond eto ni wyrais oddi wrth dy farnedigaethau.
158. Gwelais y rhai twyllodrus, a ffieiddiaisam nad ydynt yn cadw dy air.
159. Gwêl fel yr wyf yn caru dy ofynion;O ARGLWYDD, adfywia fi yn ôl dy gariad.
160. Hanfod dy air yw gwirionedd,ac y mae dy holl farnau cyfiawn yn dragwyddol.