Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 119:143-148 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

143. Daeth cyfyngder a gofid ar fy ngwarthaf,ond yr wyf yn ymhyfrydu yn dy orchmynion.

144. Y mae dy farnedigaethau di'n gyfiawn byth;rho imi ddeall, fel y byddaf fyw.

145. Gwaeddaf â'm holl galon; ateb fi, ARGLWYDD,ac fe fyddaf ufudd i'th ddeddfau.

146. Gwaeddaf arnat ti; gwareda fi,ac fe gadwaf dy farnedigaethau.

147. Codaf cyn y wawr a gofyn am gymorth,a gobeithiaf yn dy eiriau.

148. Y mae fy llygaid yn effro yng ngwyliadwriaethau'r nos,i fyfyrio ar dy addewid.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 119