14. Ar hyd ffordd dy farnedigaethau cefais lawenyddsydd uwchlaw pob cyfoeth.
15. Byddaf yn myfyrio ar dy ofynion di,ac yn cadw dy lwybrau o flaen fy llygaid.
16. Byddaf yn ymhyfrydu yn dy ddeddfau,ac nid anghofiaf dy air.
17. Bydd dda wrth dy was; gad imi fyw,ac fe gadwaf dy air.
18. Agor fy llygaid imi weldrhyfeddodau dy gyfraith.
19. Ymdeithydd wyf fi ar y ddaear;paid â chuddio dy orchmynion oddi wrthyf.
20. Y mae fy nghalon yn dihoeni o hiraetham dy farnau di bob amser.
21. Fe geryddaist y trahaus, y rhai melltigedigsy'n gwyro oddi wrth dy orchmynion.
22. Tyn ymaith oddi wrthyf eu gwaradwydd a'u sarhad,oherwydd bûm ufudd i'th farnedigaethau.
23. Er i dywysogion eistedd mewn cynllwyn yn f'erbyn,bydd dy was yn myfyrio ar dy ddeddfau;
24. y mae dy farnedigaethau'n hyfrydwch i mi,a hefyd yn gynghorwyr imi.
25. Y mae fy enaid yn glynu wrth y llwch;adfywia fi yn ôl dy air.
26. Adroddais am fy hynt ac atebaist fi;dysg i mi dy ddeddfau.
27. Gwna imi ddeall ffordd dy ofynion,ac fe fyfyriaf ar dy ryfeddodau.
28. Y mae fy enaid yn anniddig gan ofid,cryfha fi yn ôl dy air.
29. Gosod ffordd twyll ymhell oddi wrthyf,a rho imi ras dy gyfraith.