Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 119:139-147 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

139. Y mae fy nghynddaredd yn fy ysuam fod fy ngelynion yn anghofio dy eiriau.

140. Y mae dy addewid wedi ei phrofi'n llwyr,ac y mae dy was yn ei charu.

141. Er fy mod i yn fychan ac yn ddinod,nid wyf yn anghofio dy ofynion.

142. Y mae dy gyfiawnder di yn gyfiawnder tragwyddol,ac y mae dy gyfraith yn wirionedd.

143. Daeth cyfyngder a gofid ar fy ngwarthaf,ond yr wyf yn ymhyfrydu yn dy orchmynion.

144. Y mae dy farnedigaethau di'n gyfiawn byth;rho imi ddeall, fel y byddaf fyw.

145. Gwaeddaf â'm holl galon; ateb fi, ARGLWYDD,ac fe fyddaf ufudd i'th ddeddfau.

146. Gwaeddaf arnat ti; gwareda fi,ac fe gadwaf dy farnedigaethau.

147. Codaf cyn y wawr a gofyn am gymorth,a gobeithiaf yn dy eiriau.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 119