Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 119:131-141 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

131. Yr wyf yn agor fy ngheg mewn blys,oherwydd yr wyf yn dyheu am dy orchmynion.

132. Tro ataf a bydd drugarog,yn ôl dy arfer i'r rhai sy'n caru dy enw.

133. Cadw fy ngham yn sicr fel yr addewaist,a phaid â gadael i ddrygioni fy meistroli.

134. Rhyddha fi oddi wrth ormes dynol,er mwyn imi ufuddhau i'th ofynion di.

135. Bydded llewyrch dy wyneb ar dy was,a dysg i mi dy ddeddfau.

136. Y mae fy llygaid yn ffrydio dagrauam nad yw pobl yn cadw dy gyfraith.

137. Cyfiawn wyt ti, O ARGLWYDD,a chywir yw dy farnau.

138. Y mae'r barnedigaethau a roddi yn gyfiawnac yn gwbl ffyddlon.

139. Y mae fy nghynddaredd yn fy ysuam fod fy ngelynion yn anghofio dy eiriau.

140. Y mae dy addewid wedi ei phrofi'n llwyr,ac y mae dy was yn ei charu.

141. Er fy mod i yn fychan ac yn ddinod,nid wyf yn anghofio dy ofynion.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 119